I ddechrau 2019 mae noson o stand yp yn y Llew Gwyn yn Nhal-y-bont ar y 18fed o Ionawr gydag Esyllt Sears, Eleri Morgan ac Aled Richards. Mae’r tri yn gomedïwyr sy’n wreiddiol o’r ardal ac yn prysur wneud eu marc yn y sîn gomedi yng Nghymru a thu hwnt i’r ffin. Yn wreiddiol, mae Aled o Aberystwyth, Esyllt o Bow Street ag Eleri o Dal-y-bont. Mae’r noson yn rhan o gyfres Sesiwn Nos Wener sydd wedi bod yn rhedeg yn y pentref ers sawl blynedd.

Mae Aled yn storïwr digri sy’n gallu gweld hiwmor yn y corneli mwyaf tywyll. Cafodd ei sioe ‘Sioc, ges i harten!’ ei darlledu ar sawl achlysur ar Radio Cymru yn ystod 2018. Mae Esyllt Sears yn sylwebydd cymdeithasol craff sydd wedi perfformio stand yp ar S4C ac sy’n ysgrifennu ar gyfer nifer o raglenni comedi ar y radio a’r teledu. Mae Eleri yn belen afreolus o egni sy’n crefu am sylw ac yn troi ei throeon trwstan yn bwffian o chwerthin, ac mae wedi ymddangos yn y ddrama deledu, Y Gwyll ac mae hi i’w gweld o bryd i’w gilydd ar y sianel cyfryngau cymdeithasol BBC Sesh.

Mae Sesiwn Nos Wener, neu fel oedd hi’n arfer cael ei adnabod, Clwb Nos Wener, yn cynnal nosweithiau gwerin, llen, barddol a cherddorol y naill fis neu’r llall naill ai yn Dafarndai’r Llew Gwyn neu’r Llew Du. Mae’r arlwy wedi amrywio dros y blynyddoedd gan gynnwys artistiaid megis Gai Toms, Al Lewis, Mair Tomos Ifans, Elin Fflur, 9Bach, Steve Eaves, Siddi a Gareth Bonello. Criw bychan sydd yn rhedeg y nosweithiau, ac yn dewis pa artistiaid maen nhw eisiau gweld yn chwarae. Mae’r criw yn ddigon ffodus i dderbyn cymorth ariannol o dan gynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru.