Mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear yng Nghymru a Siapan wedi croesawu’r cyhoeddiad na fydd y cynlluniau ar gyfer datblygu Wylfa Newydd yn mynd yn eu blaen.

Ond mewn datganiad ar y cyd, mae Cyfeillion y Ddaear Siapan a Pawb (Pobol Atal Wylfa B) yn dal i alw ar Hitachi – sef uwch-gwmni Pŵer Niwclear Horizon – i roi’r gorau i’w busnes mewn ynni niwclear.

“Dydy pobol bellach ddim yn credu yn y gred fod ynni niwclear yn rhad, neu ein bod ni’n brin o drydan,” meddai’r datganiad.

“Mae angen inni roi’r gorau i ddefnyddio ynni niwclear ar gyfer yr ychydig bobol sy’n manteisio ohono. Mae angen gohiriad niwclear llwyr, ac mae angen gwario arian ar gefnogi dioddefwyr niwclear ac ar symud i ynni adnewyddol.”

“Rydym yn galw ar Hitachi, Llywodraeth Siapan a Llywodraeth Prydain i roi’r gorau i’w busnes ynni niwclear ac i adeiladu adweithyddion niwclear newydd, gan fuddsoddi mewn opsiynau mwy economaidd, diogelach ac adnewyddol yn lle.”

Cefndir

Fe gyhoeddodd Pŵer Niwclear Horizon fore yma (Ionawr 17) fod y rhaglen i ddatblygu gorsafoedd niwclear yng ngwledydd Prydain wedi’i hatal.

Roedd y rhaglen honno’n cynnwys gorsaf niwclear Wylfa Newydd ym Môn yn ogystal â’r gwaith sy’n ymwneud ag Oldbury yn Swydd Gaerloyw.

Mae’r prif reswm tros atal y prosiectau hyn yn ymwneud â methiant y trafodaethau rhwng y cwmni a llywodraethau Prydain a Siapan ynghylch cyllid.