Mae Cyngor Sir Benfro wedi cael cynnig £3m y flwyddyn yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn sgil ddiddymu tollau Pont Cleddau.

Ym mis Hydref 2017, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n cael gwared ar dollau’r bont yn ne’r sir mewn ymgais, medden nhw, i wella cysylltiadau ac annog twf economaidd.

Yn ôl Ysgrifennydd yr  Economi, Ken Skates, mae’r £3m ychwanegol wedi’i gynnig er mwyn talu am gostau refeniw a chostau colli swyddi y staff a oedd yn cael eu cyflogi gan wasanaeth y bont.

Mae disgwyl i’r tollau gael eu dileu yn ystod tymor y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

‘Cymorth’

“Dw i’n gwybod bod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i ddefnyddio y staff yr effeithir arnyn nhw gan y newid hwn, ond yn anffodus dw i’n deall y bydd yn rhaid i rai golli eu swydd,” meddai Ken Skates.

“Dw i’n sylweddoli pa mor anodd fydd hyn i’r gweithiwyr a’u teuluoedd a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth i’r cyhoedd a dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth ddod o hyd i swyddi newydd.”