Mae damwain ddifrifol yn ystod oriau mân y bore wedi golygu bod rhan o draffordd yr M4 wedi cau.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru roedd car wedi gwrthdaro gydag un o arwyddion y draffordd tua 4.20yb.

Mae’r ffordd i gyfeiriad y dwyrain ynghau o gyffordd 49 ym Mhont Abraham hyd at y cylchdro ar gyffordd 48 yn Llanelli.

Mae traffig yn cael ei arallgyfeirio ger Pontarddulais ar hyd yr A48 a’r A4138.

Mae glaw trwm hefyd yn achosi trafferthion i yrwyr yn ne Cymru y bore yma (dydd Gwener, Rhagfyr 7), ac mae adroddiadau am lifogydd mewn sawl ardal.