Mae disgwyl i Theresa May ddweud wrth Aelodau Seneddol sy’n gwrthwynebu ei chynllun Brexit y byddai gwrthod y cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd yn risg ac yn arwain at “raniadau ac ansicrwydd”.

Fe ddaw ei hanerchiad i Dŷ’r Cyffredin ar ôl i arweinwyr 27 o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd gymeradwyo’r cynllun mewn uwchgynhadledd ddydd Sul.

Fe fydd Theresa May nawr yn gorfod dwyn perswâd ar wleidyddion y Deyrnas Unedig i roi sêl bendith i’r cynllun.

Ond mae gweinidogion y Cabinet yn cyfaddef ei bod yn wynebu tasg anodd wrth i Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, yr SNP, y DUP a nifer o ASau Ceidwadol fygwth pleidleisio yn erbyn y cynllun.

Mae Theresa May wedi dweud y bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i geisio dwyn perswâd ar Aelodau Seneddol i gefnogi’r telerau dros adael yr UE a’i pherthynas gydag Ewrop yn y dyfodol.