Mae Cymdeithas yr Iaith yn rhybuddio y gall newidiadau y mae Llywodraeth Cymru am eu cyflwyno i daliadau ffermwyr arwain at farwolaeth yr iaith Gymraeg yng nghefn gwlad.

Un o argymhellion Llafur Cymru ar ôl Brexit, yw gwneud y taliadau “yn agored i bawb”, nid ffermwyr yn unig.

Byddai hyn yn rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio tir ar gyfer coedwigoedd, hamdden a thwristiaeth, gan ddod â’r cynllun taliadau sylfaenol i ben – rhaglen sy’n cynnal llawer iawn o ffermydd bychain ar hyn o bryd.

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 40% o weithwyr amaeth yn siarad Cymraeg, sef y canran uchaf mewn unrhyw faes gwaith arall yng Nghymru.

“Agor cil y drws i’r hunllef”

Yn ei nofel,  Wythnos yng Nghymru Fydd, a gyhoeddwyd yn 1957, mae Islwyn Ffowc Elis yn sôn am ddyfodol lle mae’r iaith Gymraeg  wedi marw, a’r hunaniaeth Gymreig wedi diflannu. Mae tir Cymru yn cael ei orchuddio gan goedwigoedd.

“Gyda’r pwyslais ar ddefnyddio tîr Cymru ar gyfer coedwigoedd, hamdden a thwristiaeth, mae’n ymddangos bod y Llywodraeth am atgyfodi hunllef o’r llyfr,” meddai Robat Idris, is-gadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Rydyn ni’n gresynu’r ffaith bod ein Llywodraeth ddatganoledig yn agor cil y drws i’r hunllef hon drwy gynnig cymhorthdal hael i bobol, cwmnïau a chyrff o du allan i Gymru.

“Mae’r diwydiant amaeth yn eithriadol o bwysig i gymunedau gwledig a threfol Cymru ac i’r Gymraeg.”

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Brexit a’n tir yn cau am hanner nos heno (dydd Mawrth, Hydref 30).