Mae llong ofod a adeiladwyd ym Mhrydain wedi dechrau ei thaith saith-mlynedd i’r blaned Mercher, yr agosaf at yr haul.

Mecher yw’r blaned i gael ei harchwilio leiaf gan ddyn o fewn cysawd yr haul.

Mae sôn fod gan y blaned graidd haearn anferth.

Gobaith gwyddonwyr o wledydd Prydain a Japan ydi datgelu cyfrinachau’r blaned yn ystod y daith £1.4bn o’r enw BebiColombo a adawodd Guiana ddoe (dydd Gwener).

Mae gan y blaned wyneb tywyll y credir ei fod wedi ei ffurfio o garbon.

Credir fod y tymheredd ar wyneb y blaned dros 400C er bod hefyd awgrymiadau fod yna rew yn ffurfio arni mewn tyllau nad ydyn nhw byth yn gweld goleuni’r haul.