Mae miloedd o ymgyrchwyr gwrth-Brexit yn gorymdeithio yn Llundain i alw am ail refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl fod o leiaf 100,000 o bobol wedi ymuno a’r orymdaith.

Mae cwmni teledu Cwmni Da o Gaernarfon wedi noddi bws i fynd â phobol i Lundain ar gyfer gorymdaith Pleidlais Y Bobol.

Yn eu mysg mae’r Cynghorydd Plaid Cymru o Lanrwst Aaron Wynne.

Meddai: “Mae yna 50 ohona ni wedi dod ar y bws o Gaernarfon ac mae yna 15 bws o Gymru benbaladr. Y rheswm yr ydwi i wedi dod i’r orymdaith heddiw ydi ddim oherwydd mod i’n gwrthwynebu’r refferendwm ond yn hytrach oherwydd fy mod eisiau dangos i San Steffan fod gan y bobol hawl i roi eu sêl bendith ar unrhyw ddêl.”

Dechreuodd gorymdaith Pleidlais Y Bobol o Park Lane am hanner dydd ac fe fydd yn gorffen gyda rali yn  Parliament Square.

Ymysg y siaradwyr mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price ynghyd â Maer Llundain Sadiq Khan a’r gogyddes Delia Smith.