Mae nofel boblogaidd Gymraeg ‘O! Tyn y Gorchudd’ gan Angharad Price wedi cael ei chyfieithu i’r Gatalaneg a’r Sbaeneg (Castileg) .

Hon yw ail nofel Angharad a enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi yn 2002 a gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn ym 2003.

Mae’r nofel fug-hunangofiannol eisoes wedi ei chyfieithu i bedair iaith arall, sef Saesneg, Almaeneg, Rwmaneg a Bengaleg.

Cyhoeddwyd y cyfieithiad Saesneg, dan y teitl The Life of Rebecca Jones, yn 2010.

Gwasg Rata o Gatalwnia sy’n gyfrifol am gyhoeddi’r ddau gyfieithiad diweddaraf, a bydd Angharad  yn cymryd rhan yng ngŵyl lenyddol Liternatura dros y penwythnos er mwyn hyrwyddo’r cyfieithiadau.

Bydd hefyd yn cynnal darlleniadau mewn siopau llyfrau yn Barcelona a Madrid ar ran Gwasg Rata.

Wrth siarad gyda golwg360 cyn gadael am Gatalwnia, meddai Angharad:  “Mae’n braf gweld llenyddiaeth Gymraeg yn cyfathrebu trwy gyfieithiadau efo diwylliannau eraill, ac mae ’na lawer yng Nghatalwnia, yn enwedig, yn awyddus i ddysgu mwy am Gymru a’i llenyddiaeth.”

Yn enedigol o Fethel, Gwynedd, fe’i ganwyd ym Mangor. Graddiodd mewn Ieithoedd Modern o Goleg yr Iesu, Rhydychen, a bellach mae hi’n darlithio ym Mhrifysgol Bangor ym maes rhyddiaith Gymraeg y cyfnod modern.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Tania’r Tacsi, yn 1999.

Yn 2012 cyhoeddodd Angharad ei thrydedd nofel, Caersaint – nofel gyfoes wedi ei gosod yn nhref Caernarfon, lle mae hi yn byw gyda’i dau blentyn a’i gŵr Patrick McGuinness sy’n academydd, beirniad, nofelydd, a bardd. Mae e’n Athro Llenyddiaeth Ffrangeg a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Rhydychen, lle mae’n Gymrawd a Thiwtor yng Ngholeg Sant Anne.