Cafodd o leia 60 o bobol eu lladd ar ôl i drên oedd yn cyflymu daro mewn i dorf oedd yn gwylio tân gwyllt yn ystod gŵyl grefyddol yng ngogledd India.

Ddaru’r trên fethu stopio wedi’r ddamwain ar gyrion Amritsar, dinas yn nhalaith Punjab, yn ôl llygaid dystion.

Mae  o leiaf 60 wedi’u lladd a 50 yn rhagor wedi’u hanafu ac yn yr ysbyty.

Dywedodd asiantaeth newyddion y Press Trust of India fod dau drên wedi cyrraedd yr un amser o gyfeiriadau gyferbyn a’i gilydd ar draciau gwahanol, gan roi ’chydig iawn o gyfle i bobol ddianc.

Mae’r Prif Weinidog Narendra Modi yn “hynod o drist” oherwydd y ddamwain, meddai, gan ychwanegu ei fod wedi gofyn i swyddogion wneud eu gorau glas i roi’r cymorth angenrheidiol.

Ni chlywyd sŵn chwiban y trên wrth iddo gyflymu heibio’r safle lle’r oedd cannoedd o bobl yn gwylio llosgi delw o’r diawl Ravana yn ystod gŵyl Hindŵaidd Dussehra, meddai un llygad dyst.

Roedd nifer o’r dorf wedi encilio tuag at y rheilffordd wrth i’r delw gael ei gynnau a’r tân gwyllt ddechrau. Dywedodd un arall na chlywson nhw’r trên oherwydd sŵn y tân gwyllt