Mae’n bosib y bydd Pab Ffransis yn derbyn gwahoddiad Kim Jong-un i ymweld â Gogledd Corea.

Bu arlywydd De Corea, Moon Jae-in, yn cynnal cyfarfod preifat gyda’r Pab Francis, lle mae’n debyg i bennaeth yr Eglwys Gatholig ddweud y byddai’n barod i gyfarfod â Kim Jong-un.

Mae Kim Jong-un eisoes wedi mynegi ei ddymuniad i wahodd y Pab i Ogledd Corea, er gwaetha’r ffaith bod y wlad yn anffyddiol ac yn rheoli gweithgareddau crefyddol yn llym. Ond does dim gwahoddiad ffurfiol wedi’i wneud eto.

“Os daw’r gwahoddiad, yna dw i’n barod i ymateb iddo, ac mae’n bosib y bydda i’n mynd,” meddai swyddfa’r arlywydd, yng ngeiriau’r Pab.

Cafodd wahoddiad tebyg ei estyn i’r Pab Ioan Paul II yn 2000, ond arweiniodd hynny fyth at ymweliad.

Esgus y Fatican ar y pryd oedd y byddai’r Pab yn barod i ymweld â Gogledd Corea ar yr amod bod offeiriaid Catholig yn cael yr hawl i addoli yno.