Mae’r cyfrifoldeb am drenau yng Nghymru wedi cael ei drosglwyddo i gwmni newydd o heddiw ymlaen.

Mae Trafnidiaeth Cymru – enw’r cwmni KeolisAmey yng Nghymru – yn cymryd yr awenau ar ôl 15 mlynedd o wasanaethau Arriva Cymru.

Daw’r newid ar ôl blwyddyn gythryblus i Arriva Cymru, sydd wedi gweld cynnydd o 30% yn nifer y cwynion a dderbyniodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth ddechrau ar eu gwaith heddiw (dydd Sul, Hydref 14), mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu hyd at 2025.

Dywed y cwmni y bydd 95% o deithiau’n digwydd ar drenau newydd sbon erbyn 2023.