“Peidiwch â theithio oni bai bod rhaid” yw neges Heddlu Dyfed-Powys wrth i lifogydd barhau i effeithio ar y ffyrdd a rheilffyrdd yn Sir Gâr a Cheredigion.

Dywed yr heddlu y dylai pawb aros dan do oni bai bod argyfwng neu fod angen helpu rhywun bregus.

Ac mae rhybudd i bobol beidio â mynd allan i edrych ar y llifogydd.

Dylai unrhyw un sy’n gorfod teithio fod yn wyliadwrus, a cheisio osgoi gyrru trwy ddŵr.

Mae rhybudd hefyd i bobol feddwl cyn ffonio’r gwasanaethau brys, ac ystyried pwy arall allai fod o gymorth.

Dim ond mewn argyfwng y dylid ffonio 999, meddai’r heddlu.