Mae ardaloedd ledled Cymru yn dal i gael eu heffeithio gan dywydd garw wrth i Storm Callum ledu ar draws y wlad.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhybudd melyn ar gyfer rhannau o ogledd Cymru, tra bo rhybudd oren – fwy difrifol – yn y de.

Mewn ambell fan yng Nghymru, maen nhw wedi gweld gwyntoedd yn chwythu ar gyflymder o 72 milltir yr awr, tra bo rhannau eraill wedyn wedi gweld 15mm o law yn disgyn mewn cyfnod o dair awr.

Dim trydan

Yn ogystal â llifogydd yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus a’r ffyrdd, a bu cannoedd o dai yn ardaloedd Castell-nedd, Llandeilo a Chasnewydd heb drydan y bore yma.

Mae Ysgol Bryngwran ar Ynys Môn ynghau oherwydd diffyg trydan, ac mae gwasanaethau fferi rhwng Cymru ac Iwerddon hefyd wedi cael eu gohirio am y dydd.

Bydd y rhybuddion tywydd mewn grym tan yfory, ac mae’r awdurdodau’n cynghori pobol i gymryd gofal wrth deithio ar droed neu mewn cerbyd.