Y Ffrancwr Thierry Henry, a gafodd ei hyfforddi i fod yn hyfforddwr gan Osian Roberts, yw’r ffefryn i gael ei benodi’n rheolwr nesaf Clwb Pêl-droed Aston Villa.

Cafodd Steve Bruce ei ddiswyddo’r wythnos ddiwethaf, wrth i’r clwb baratoi i herio Abertawe ar Hydref 20.

Enillodd Thierry Henry ei drwydded i hyfforddi ar ôl cwblhau cwrs o dan arweiniad y Cymro Cymraeg sy’n rhan o dîm hyfforddi Cymru o dan Ryan Giggs. Mae lle i gredu iddo gael cyfweliad eisoes am y swydd.

Ond mae rheolwr Celtic Brendan Rodgers – rheolwr Abertawe pan gawson nhw ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2011 – yn un arall sy’n cael ei ystyried, yn ôl adroddiadau.