Bydd cais i greu maes parcio newydd i tua 153 o geir i weithwyr yng ngorsaf niwclear arfaethedig Wylfa Newydd ar gyrrion Caernarfon yn cael sel bendith y pennaeth cynllunio.

Y bwriad ydi creu maes parcio newydd, mynediad, golau stryd ynghyd â gwaith peirianyddol cysylltiedig ar dir ger Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon.

Yr argymhelliad fydd fod Pennaeth Cynllunio’r cyngor, Dafydd Williams yn rhoi sel ei fendith i’r cais a’i ganiatay yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau gan Lywodraeth Cymru.

Mewn adroddiad i’r cynghorwyr, dywedir fod hwn yn gais llawn ar gyfer creu cyfleuster parcio a rhannu ar gyfer gwaith adeiladu gorsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn. Bydd y cyfleuster ar gyfer tua 153 o gerbydau ac wedi ei leoli rhwng depo Adran Priffyrdd y Cyngor ar gyrion Stad Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon a rhediad y ffordd osgoi Bontnewyd arfaethedig.

Y bwriad yw defnyddio’r safle ar gyfer gweithwyr adeiladu yn ystod y cyfnod adeiladu’r orsaf bŵer ac ar ôl ei gwblhau bydd y llecynnau parcio a rhannu ar gael wedyn i’r cyhoedd eu defnyddio.

Darparir wyth llecyn parcio ar gyfer yr anabl, gyda chwe man gwefru ar gyfer cerbydau trydanol, safle a lloches bysiau, lloches ar gyfer deg
beic ynghyd â saith llecyn parcio ar gyfer beiciau modur.

Disgwylir y bydd bysiau gwennol wedyn yn cludo’r gweithwyr i safle’r orsaf niwcliar yn Wylfa, ger Cemaes, Ynys Môn neu eu bod yn rhannu ceir i arbed creu rhagor o broblemau ac oedi i deithwyr groesi’r ddwy bont na sydd yn bodoli eisoes.

Derbyniwyd gohebiaeth yn gwrthwynebu ar sail lleoliad y ffordd osgoi arfaethedig ynghyd a’r maes parcio gyferbyn a busnes llety gwyliau Fferm Bodrual.

Fe fydd y cais yn cael ei drafod gan aelodau o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ar Hydref 15.