Mae’r streic ddiweddara gan giardiau trenau wedi derbyn “cefnogaeth solet” heddiw, gan achosi nifer o wasanaethau i gael eu heffeithio.

Digwyddodd y problemau ar ôl i aelodau o’r undeb y Rail, Maritime and Transport (RMT) gerdded allan o’u gwaith gyda Arriva Rail North (Northern) am 24 awr, gyda rhagor o weithredu wedi ei drefnu dros yr wythnosau nesaf.

Dim ond traean y gwasanaethau oedd yn rhedeg heddiw oherwydd y streic, aeth yn ei blaen wedi i drafodaethau ddymchwel yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT Mick Cash said: “Mae aelodau yr RMT yn sefyll yn solet, yn benderfynol ac unedig eto’r bore yma ar  Northern Rail yn y frwydr sy’n parhau dros ddiogelwch a mynediad ar ein trenau ac yn ddig a rhwystredig fod y cwmni wedi dymchwel trafodaethau’r wythnos hon gyda’r gwasanaeth cymodi Acas yn hytrach na cheisio dod i gytundeb.”

“Dyma’r wythfed diwrnod ar hugain o weithredu yn yr anghydfod Northern Rail.”

Dywedodd Richard Allan, dirprwy rheolwr gyfarwyddwr Northern, fod undeb yr RMT wedi “newid” y sail yr oedden nhw yn barod i’w trafod. Galwodd ar yr RMT i ddychwelyd i drafod ac i ddod a’r streiciau i ben.