Mae nifer y bobol sy’n gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu yn y degawd diwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Yn ôl Arolwg Blynyddol y Boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) o bobol tair oed a throsodd, mae 874,700 allan o 2.987m o bobol yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru, sy’n 29.3% o’r boblogaeth.

Mae’n gynnydd o 3.5% ar y nifer ym Mehefin 2008, pan ddywedodd 726,600 eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru, sef 25.8% o’r boblogaeth.

Mae cynnydd wedi bod ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ers 2008, heblaw am Sir y Fflint a Torfaen.

Mae’r cynnydd mwyaf dros y ddegawd ddiwethaf wedi bod yn Sir Benfro. Yn 2008 roedd 20.8% yn gallu siarad yr iaith, bellach mae 30.2% yn medru, sy’n gynnydd o 12,300 o bobol.

Dywed Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws fod y ffigyrau “yn hynod o galonogol ac yn awgrymu ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir o safbwynt cynyddu’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg”.

“Wrth gwrs, bydd angen aros hyd nes caiff canlyniadau’r Cyfrifiad eu cyhoeddi er mwyn cael darlun mwy cynhwysfawr o’r sefyllfa, a honno fydd y ffynhonnell y byddwn yn talu sylw agos iddi o safbwynt mesur llwyddiant strategaethau hybu’r Gymraeg.”