Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Helen Mary Jones wedi gadael ei swydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Roedd hi wedi bod yn cyfuno’r ddwy swydd ers cael ei dewis yn olynydd i Simon Thomas, a oedd wedi camu o’r neilltu ym mis Gorffennaf yn sgil ymchwiliad yr heddlu.

Roedd Helen Mary Jones yn bennaeth ar Academi Morgan y brifysgol, canolfan sy’n edrych ar bolisi cyhoeddus yng Nghymru ac a gafodd ei henwi er cof am gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.

Dywedodd cyn-Aelod Cynulliad Llanelli ym mis Gorffennaf, cyn dychwelyd i’r Cynulliad, ei bod hi’n ansicr a oedd hi am fynd i Fae Caerdydd, a bod ganddi “lawer o benderfyniadau mawr” i’w gwneud.

Ond neithiwr (nos Wener Medi 14), fe ddaeth cadarnhad ei bod bellach wedi gadael ei swydd ym Mhrifysgol Abertawe.

‘Diolchgar’

Mewn neges ar ei thudalen Facebook, dywed Helen Mary Jones, “Heddiw, ar ôl cyfuno dwy swydd am sbel, dw i wedi ffarwelio o’r diwedd â fy swydd yn Academi Morgan Prifysgol Abertawe.

“Dw i mor ddiolchgar am y bos gorau erioed, yr Athro Mike Sulivan, tîm Academi Morgan, a chydweithwyr yn yr Ysgol Reolaeth a’r Brifysgol yn ehangach.

“Dw i wedi cael blwyddyn anhygoel. Dw i wedi dysgu cymaint. Heno, dw i’n teimlo’n drist o adael y cyfan y tu ôl i fi.

“Doedd y penderfyniad ddim yn un hawdd i’w wneud, gadael rhyddid academaidd a sicrwydd swydd i ddychwelyd i wleidyddiaeth rheng flaen.

“Roedd rhaid i fi feddwl yn hir ac yn ofalus, a dw i ddim yn tanbrisio’r anfanteision – yr ansicrwydd, y craffu, a weithiau’r gwenwyn. Ac mae’r amgylchiadau’n ofnadwy.”

‘Dyletswydd yn galw’

“Ond weithiau,” meddai Helen Mary Jones wedyn, “mae pethau jyst yn digwydd. Ac mae dyletswydd yn galw.

” Fe wnaf fy ngorau i wasanaethau pobol y canolbarth a’r gorllewin, a Chymru gyfan, fel aelod o’n Cynulliad Cenedlaethol.

“Myfyrio sy’n bwysig heno. O’r wythnos nesaf, gweithredu fydd yn bwysig, gweithredu i amddiffyn ein cymunedau yn yr amserau peryglus hyn ac i geisio adeiladu’r Gymru y mae ei hangen arnom ni gyd.

“Diolch i bawb sydd wedi cysylltu i ddymuno’n dda i fi. Mae’n golygu cymaint. Diolch yn fawr. Ymlaen.”