Mae cynghorydd lleol wedi wfftio adroddiadau bod marchnad tre’r Fflint yn dod i ben, gan ychwanegu ei bod, yn hytrach, yn symud i leoliad newydd.

Fe fydd marchnad hanesyddol y Fflint yn cael ei chynnal am y tro ola’ ar Stryd yr Eglwys yn y dre’ heddiw, ar ôl i’r Cyngor Sir benderfynu dod â’r farchnad 700 oed i ben.

Roedd hynny, medden nhw, oherwydd diffyg cwsmeriaid a stondinau, yn ogystal â’r ffaith ei bod yn costio tua £10,000 y flwyddyn iddyn nhw ei rhedeg.

Ond yn ôl Vicky Perfect, un o gynghorwyr tre’r Fflint ar y Cyngor Sir, mae tafarn leol y George & Dragon bellach wedi cynnig ei maes parcio er mwyn cynnal y farchnad yn y dyfodol.

“Mae’r George & Dragon yn Stryd yr Eglwys gyferbyn ag Eglwys y Santes Fair a Dewi Sant, felly nid yw’r farchnad yn symud yn bell,” meddai wrth golwg360.

Dirywiad y farchnad

Dros y blynyddoedd, mae marchnad tre’r Fflint wedi cael ei hail-leoli droeon, a dim ond yn 2012 y cafodd y farchnad bresennol, sydd wedi cael ei chynnal yn y dre’ ers 700 mlynedd, ei symud i Stryd yr Eglwys.

Ers hynny, meddai Vicky Perfect, mae’r digwyddiad wythnosol wedi “dirywio”, gyda dim ond pedwar stondin yn dod yno’n rheolaidd bellach.

“Mae’r archfarchnadoedd wedi lladd stondinau marchnad,” meddai.

“Ar un amser, roedd marchnad y dre’ yn cynnwys 30 o stondinau o gwmpas Neuadd y Dre’, yn gwerthu amrywiaeth o bethau fel recordiau, siwmperi a chigoedd.

“Ond erbyn hyn mae pobol yn prynu’r pethau hyn i gyd yn yr archfarchnadoedd, ac yn anffodus maen nhw wedi lladd y fasnach yr oedd y stondinau bach yn ei chael.”