“Pam fi?” yw ymateb cyn-fowliwr Clwb Criced Morgannwg, Malcolm Nash wrth iddo gofio’n ôl i’w ran yn un o’r digwyddiadau enwocaf yn hanes y gêm – union hanner canrif yn ôl i heddiw.

Ar Awst 31, 1968, dioddefodd y bowliwr llaw chwith yr anffawd o gael ei daro am chwech chwech mewn pelawd gan Garfield Sobers ar gae San Helen yn Abertawe – y tro cyntaf erioed i unrhyw chwaraewr sgorio’r nifer fwyaf o rediadau y mae modd i fatiwr eu sgorio mewn pelawd.

Fe ddigwyddodd ar ddiwrnod cyntaf gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Nottingham a doedd y batiwr ddim yn awyddus i aros yn rhy hir cyn cau’r batiad ac felly, roedd yn rhaid ceisio rhediadau cyflym.

Dywedodd Malcolm Nash, “Pan y’ch chi’n cofio’n ôl [ry’ch chi’n meddwl], “Dw i’n difaru bod hyn wedi digwydd”. Ond fe wnaeth e. Felly rhaid i chi feddwl yn bositif a dweud, “Pam fi?”

“Fel mae’n digwydd, fe yw’r chwaraewr gorau sydd wedi byw ac wedi chwarae’r gêm hon. Felly dyw e ddim yn beth drwg fod e wedi digwydd yn erbyn y chwaraewr gorau erioed. Gymera i hynna!”

Dod i amlygrwydd ar draws y byd

Doedd y digwyddiad yn sicr ddim yn ddrwg o beth i godi proffil Malcolm Nash, nid yn unig yng Nghymru a Lloegr, ond yn fyd-eang hefyd, wrth i’r newyddion am orchestion Garfield Sobers ledu’n gyflym am fod camerâu’r BBC yno i ffilmio’r cyfan.

“Wnes i ddim meddwl am y peth,” meddai, “ond roedd yna bobol eraill yn y tîm oedd yn dweud, “Byddi di’n siarad am hyn am byth”. Roedd ’na ambell athronydd, ac roedden nhw’n iawn!”

Ac mae’n cyfaddef fod y digwyddiad wedi ei adael yn “syfrdan”.

“Ry’ch chi’n ddideimlad am y peth ar yr union adeg honno ac yn meddwl, “O Dduw, mae wedi digwydd! Ry’ch chi’n mynd i mewn ac mae rhywfaint o sioc yn eich taro chi.

“Ry’ch chi’n meddwl wedyn, “Iawn, mae wedi digwydd. Alli di ddim gwneud unrhyw beth amdano fe. Ond mae fory’n ddiwrnod newydd”.

Yr helynt cyntaf

Oni bai am newid i ddeddfau criced yn 1968, fyddai’r ‘chwech chwech’ ddim wedi digwydd.

Yn 1967 – ac wedyn yn 1969 – roedd deddfau’r gêm yn nodi na châi batiwr chwech rhediad pe bai maeswr yn dal y bêl wrth i’w gorff gyffwrdd â’r ffin. Ond am dymor 1968 yn unig, cafodd y rheol ei newid er lles y batiwr.

Oddi ar bumed pelen y belawd, cafodd y batiwr ei ddal gan Roger Davis, oedd wedi cyffwrdd â’r rhaff wrth afael yn y bêl, ac fe oroesodd y batiwr i daro’r chwech olaf a chreu hanes. Ond unwaith eto, agwedd ddigon athronyddol sydd gan Malcolm Nash.

“Un o’r pethau hynny yn y gêm oedd e. Pan fo pobol yn gofyn i fi, “Beth oedd yn mynd trwy dy feddwl?”, yr hyn sydd wastad yn mynd trwy dy feddwl, a beth oedd yn mynd trwy fy meddwl i oedd fy mod i’n bowlio at y batiwr gorau sydd wedi chwarae’r gêm, a bod angen i fi ei gael e allan!”

Yr ail helynt

Nid y daliad amheus oedd diwedd yr helynt ychwaith – yn wir, fe barodd flynyddoedd.

Yn 2006, roedd ocsiwniar yn cynnig pêl griced oedd yn cael ei hyrwyddo fel pêl a gafodd ei defnyddio yn ystod y belawd hanesyddol. Ond yn ôl y bowliwr, nid y bêl go iawn a gafodd ei gwerthu am £26,400 gan Christie’s yn Llundain.

Mae gan Malcolm Nash gyfiawnhad am yr hyn mae’n ei ddadlau, fel yr eglurodd unwaith eto eleni.

“Peli Stuart Surridge roedden ni’n eu defnyddio ym Morgannwg. Pêl Dukes oedd yr un a gafodd ei gwerthu yn yr ocsiwn gan Christie’s a doedden ni byth yn bowlio gyda’r rheiny oni bai ein bod ni’n chwarae oddi cartref. Peli’r gwrthwynebwyr oedden nhw, nid ein peli ni.

“Ro’n i’n cadw pedair, pum, chwe phêl yn fy mag, a phob un yn bêl Surridge.

“Felly bai’r ocsiwniar yw’r helynt, mewn gwirionedd, a’u problem nhw, nid fy mhroblem i, yw a ydyn nhw’n fodlon cymryd cyfrifoldeb am werthu’r bêl anghywir!”

  • Mae Malcolm Nash yn adrodd yr hanes yn ei hunangofiant, Not Only, But Also: My Life in Cricket (gyda Richard Bentley, St. David’s Press)

 

Darllenwch ragor am y chwech chwech hanesyddol