Mae elusennau tlodi wedi croesawu penderfyniad Goruchaf Lys a allai wneud gwahaniaeth mawr i weddwon di-briod sydd â phlant.

Fe benderfynodd y barnwyr o bedwar i un y dylai gwraig 46 oed gael lwfans gweddw ar gyfer ei phedwar plentyn, er nad oedd hi a’i diweddar bartner yn briod.

Roedd Siobhan McLaughlin a John Adams o Swydd Antrim yng Ngogledd Iwerddon wedi cyd-fyw am 23 mlynedd ond roedd hi wedi ei gwrthod rhag cael lwfans rhiant gweddw.

Fe benderfynodd y Goruchaf Lys nad oedd y gyfraith yn unol â deddfau hawliau dynol.

‘Y dyletswyddau yr un peth’

“Mae’r lwfans yn bod oherwydd dyletswyddau’r ymadawedig a’r goroeswr at eu plant,” meddai Llywydd y Llys, Arlgwyddes Hale. “Mae’r dyletswyddau yr un peth pa un ai ydyn nhw’n briod ai peidio neu mewn partneriaeth sifil gyda’i gilydd.”

Mae’r elusen, Rhwydwaith Galar mewn Plentyndod, wedi croesawu’r penderfyniad ac fe ddywedodd y Grŵp Gweithredu tros Dlodi Plant y dylai’r gyfraith gael ei newid.

 

“Rhaid i’r Llywodraeth symud yn gyflym yn awr i roi’r egwyddor ar waith a sicrhau bod pob plentyn sy’n colli rhiant yn cael eu cynnal yn ariannol ar yr un sail â phlant sydd â rhieni priod,” meddai Cyfarwyddwr Polisi’r elusen, Louisa McGeehan.