Mae dynes o Lundain yn wynebu cyhuddiadau o dwyll, yn gysylltiedig â chronfa arian trychineb Tŵr Grenfell lle bu farw 72 o bobol.

Mae Jenny McDonagh o Abbey Wood yn ne Llundain yn gyn-weithwraig i Gyngor Kensington a Chelseu lle mae’r fflatiau, a chafodd y ddynes 39 blwydd oed ei harestio am yr eildro ddoe.

Erbyn hyn, mae’n wynebu dau gyhuddiad o dwyll trwy gymryd mantais o’i swydd, un cyhuddiad o ddwyn ased cyflogwr heb ganiatâd, ac un cyhuddiad o dwyll ariannol.

“Mae’r cyhuddiadau yn gysylltiedig â meddiant arian a ddylai fod wedi cael ei drosglwyddo i bobol a gafodd eu heffeithio gan y trychineb,” meddai Heddlu Llundain.

Bydd Jenny McDonagh yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw.