Mae plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) wedi cael ffein o £1,000 am fethu ag adrodd am fenthyciad ariannol.

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhoi dwy ddirwy o £500 yr un, ac mae’r ddwy wedi eu talu y mis hwn, yn ôl adroddiad y corff.

Y DUP yw plaid fwyaf Gogledd Iwerddon, ac mae’r Aelodau Seneddol yn cefnogi llywodraeth Theresa May yn San Steffan ar faterion pwysig fel Brexit.

“Mae’r angen i adrodd am fenthyciadau ariannol yn gwbwl glir,” meddai’r Comisiwn Etholiadaol, “felly mae’n siom i ni pan nad yw pleidiau yn cadw at y rheolau.

“Mae’n hanfodol bod pleidleiswyr yn gallu gweld yn iawn sut y mae’r pleidiau yn gwario’u harian, oherwydd mae hynny’n dylanwadu’r ffordd y maen nhw’n pleidleisio mewn etholiadau ac mewn referenda.

“Dyna sy’n gwneud gwleidyddiaeth yn dryloyw, ac yn agored i bawb ei sgriwtineiddio.”

 

[Message clipped]  View entire message