Mae gwasanaethau argyfwng yn Portiwgal yn dal i chwilio am ddyn o wledydd Prydain sydd ar goll yn dilyn damwain cwch ar lyn.

Fe gafodd y dyn ei daflu o gwch banana ar Argae Santa Clara tua 5yp ddoe (dydd Llun, Awst 20).

Roedd ymhlith grŵp o ddeg o bobol yn y ganolfan chwaraeon dwr, tuag awr i’r gogledd o ardal yr Algarve.

Fe ddaeth y chwilio i ben neithiwr, ond mae wedi ail-ddechrau ben bore heddiw (dydd Mawrth).

Mae gwirfoddolwyr lleol yn dweud fod pedwar o bobol ar y gwch banana, a chwech arall ar gwch oedd yn ei dowio. Fe ddiflannodd un o blith y pedwar ar y cwch awyr, wedi iddo gael ei daflu i’r awyr.

Mae’r papur newydd, Jornal De Noticias, yn adrodd fod y grŵp o Brydeinwyr yn westeion i fab i Brydeiniwr sy’n berchen ar nifer o dai yn yr ardal, a bod ganddo hefyd fynediad at ran o’r argae.

Mae’r Swyddfa Dramor yn Llundain wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynorthwyo teulu Prydeiniwr sydd wedi’i riportio ar goll yn Portiwgal, a’u bod mewn cysylltiad gyda’r awdurdodau yn lleol.

Mae Argae Santa Clara rhyw 25 milltir i’r de o ddinas Ourique, a thua awr o daith mewn car o Portimao yn yr Algarve.