Mae Arweinydd newydd UKIP yng Nghymru wedi’i  feirniadu gan ffigyrau Mwslimaidd am ei sylwadau ynglŷn â byrcas.

Mewn cyfweliad ag ITV Cymru ar ddydd Sul (Awst 12) dywedodd Gareth Bennett bod gweld menywod yn gwisgo’r dilledyn yn ei wneud yn anghyffyrddus.

Dywedodd hefyd bod y dilledyn yn rhan o “ddiwylliant estron”, a’i fod yn “gyn-ganoloesol”.

Bellach mae Cyngor Mwslimaidd Cymru wedi ymateb, gyda’u Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol yn galw’r sylw yn “lwfr” ac yn “Islamoffobig”.

“Anghywir”

“Mae Bennett yn anghywir i alw’r gorchudd wyneb yn ‘estron’ a ‘chyn-ganoloesol’,” meddai  Dr Abdul-Azim Ahmed.

“Mae Mwslimiaid wedi bod rhan o Brydain a Chymru ers canrifoedd, yn cyfrannu at eu twf, eu cyfoeth a’u diwylliant. Does dim gwadu hynny.

“Ac mae ymgais Bennett i anwybyddu bod Islam yn rhan o ddiwylliant Cymru yn amlygu llawer am uchelgeisiau cenedlaetholgar-gwyn UKIP.”

Sylwadau

Daw sylw Gareth Bennett rhai diwrnodau yn sgil sylw tebyg gan Christine Hamilton, gwraig yr Aelod Cynulliad UKIP Neil Hamilton.

Ar ddydd Gwener (Awst 10) mi bostiodd lun ar Twitter o grŵp eithafol y Ku Klux Klan, gan ategu’r neges: “Os ydy’r byrca yn dderbyniol, mae’n rhaid bod hyn yn dderbyniol hefyd?”

Daw sylwadau’r ddau ffigwr yn sgil sylwadau gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref, Boris Johnson, mewn erthygl papur newydd yr wythnos ddiwetha’.