Mae tri o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng yng Nghaerdydd fore heddiw.

Fe ddigwyddodd am 4 o’r gloch y bore ar yr A4232, 200 llath i ffwrdd o gylchfan Ffordd Casnewydd, pan darodd Ford Focus llwyd yn erbyn lori nwyddau trwm.

Cafodd gyrrwr y car a’r teithwyr eu cludo i’r ysbyty, lle buon nhw farw’n ddiweddarach.

Roedd y ffordd ynghau am gyfnod byr yn sgil ymchwiliad yr heddlu.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth. Dylai unrhyw dystion eu ffonio ar 101.