Mae 25 o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn ffrwydrad yn yr Almaen.

Cafodd pedwar o bobol anafiadau difrifol pan ffrwydrodd adeiladu yn ninas Wuppertal yng ngorllewin y wlad.

Yn ôl adroddiadau, cafodd trigolion gymaint o fraw nes eu bod nhw’n sgrechian yn y stryd yn dilyn y digwyddiad.

Roedd tân yn yr adeilad yn dilyn y ffrwydrad, ac fe ddechreuodd yr adeilad ddymchwel wrth i’r gwasanaeth tân geisio diffodd y fflamau.

Mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod beth oedd wedi achosi’r tân.