Mae Ffrainc a Gwlad Belg yn awyddus i UNESCO roi statws Treftadaeth y Byd i’w cofebau rhyfel, wrth i ddigwyddiadau i nodi canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ddirwyn i ben.

Mae’r cofebau ar y ffin rhwng y ddwy wlad yn cofio’r milwyr hynny fu farw mewn brwydrau megis Verdun yn Ffrainc a Passchendaele yng ngwlad Belg.

Bu farw hyd at dair miliwn o bobol ar flaen y gad, ac mae mwy na dwy filiwn o bobol wedi’u claddu yn yr ardal.

Mae Ffrainc a Gwlad Belg am weld 139 o safleoedd yn derbyn cydnabyddiaeth gan Unesco pan fyddan nhw’n ystyried y cais mewn cyfres o gyfarfodydd sy’n dechrau heddiw (Mehefin 24) ac yn para tan Orffennaf 4.

Yn ôl y ddwy wlad, nid dathlu’r rhyfel yw eu nod, ond yn hytrach cofio’r rhai a fu farw.