Mae prif weithredwr cwmni Siemens UK wedi beirniadu sloganau Brexit Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson.

Dywedodd Jürgen Maier wrth raglen Today ar BBC Radio 4 heddiw fod y cwmni’n dymuno cael Brexit meddal gyda “chyn lleied o wrthdaro” â phosib.

Roedd yn feirniadol o “ddwy flynedd heb gyflawni’r hyn a gafodd ei addo i ni” gan Lywodraeth Prydain.

Realiti

Dywedodd Jürgen Maier fod realiti’r sefyllfa’n golygu ei bod yn “bryd symud oddi wrth sloganau” ac y dylid “closio at ein partneriaid Ewropeaidd” i sicrhau Brexit “sy’n gweithio i’r ddwy ochr”.

Dywedodd Gweinidog Pwerdy’r Gogledd, Jake Berry nad oedd ganddo fe “ddim clem” beth yw “Brexit papur tŷ bach”.