Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi eu bod am gefnu ar Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.

Wrth ddatgan y penderfyniad, dywedodd y llysgennad Americanaidd, Nikki Haley, bod y corff wedi cael “sawl cyfle” i newid, ac nad oedden nhw’n “haeddu’u henw”.

Mi feirniadodd y cyngor o ddangos “rhagfarn ddi-baid yn erbyn Israel”, a thynnodd sylw at y ffaith bod gwledydd sy’n sathru ar hawliau dynol yn aelodau ohono.

“Cymerwn y cam yma, oherwydd does dim modd i ni aros yn rhan o gorff sy’n dangos dirmyg at hawliau dynol, ac sy’n ffafrio’i hun dros bopeth arall,” meddai.

Cefnu

Dyma’r enghraifft ddiweddara’ o weinyddiaeth yr Arlywydd, Donald Trump, yn cefnu ar sefydliad rhyngwladol.

A daw’r cyhoeddiad, ddiwrnod yn unig wedi i bennaeth hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, Zeid Ra’ad al-Hussein, feirniadu’r weinyddiaeth am wahanu plant mewnfudwyr wrth eu rhieni.