Mae pedwar o filwyr o Rwsia wedi’u lladd mewn gwrthdaro â brawychwyr yng ngogledd-ddwyrain Syria, yn ôl adroddiadau.

Roedd y rhai fu farw’n cydweithio â byddin Syria yn rhanbarth Deir el-Zour y wlad.

Cafodd 43 o wrthryfelwyr eu lladd yn y brwydro dros nos.

Mae Rwsia’n cefnogi lluoedd yr Arlywydd Bashar Assad yn erbyn gwrthryfelwyr a Daesh.