Mae’r heddlu ym Mhacistan wedi lladd chwech o frawychwyr oedd wedi’u hamau o fomio dinas Lahore.

Cawson nhw eu saethu wrth iddyn nhw deithio ar feiciau modur ger dinas Gujrat, ond llwyddodd tri o’r dynion i ffoi.

Mae lle i gredu eu bod nhw’n aelodau o Jamaat-ul-Ahrar, ac mai nhw oedd yn gyfrifol am fom a laddodd 26 o bobl, gan gynnwys naw o blismyn, yn Lahore y llynedd.

Cafodd arfau a ffrwydron eu darganfod yn ystod y cyrch.