Mae pwysau ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May i sicrhau bod deddfau erthylu Gogledd Iwerddon yn cael eu diwygio, ar ôl i Weriniaeth Iwerddon benderfynu diwygio’u deddfau yn dilyn refferendwm.

Roedd dau draean o’r pleidleiswyr yn y refferendwm ddoe o blaid diwygio’r ddeddf bresennol.

Ond fe allai’r mater rwygo Llywodraeth Prydain, gan eu bod yn ddibynnol ar gefnogaeth y DUP, ac maen nhw’n gwrthwynebu diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol.

Dywedodd Penny Mordaunt, sydd â chyfrifoldeb tros fenywod a chydraddoldeb, fod y refferendwm wedi sicrhau “diwrnod hanesyddol a gwych i Iwerddon”, a diwrnod “gobeithiol i Ogledd Iwerddon”.

Mae nifer o fenywod blaenllaw o fewn Llywodraeth Prydain o blaid diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol, ac yn eu plith mae pedair sydd wedi bod yn gyfrifol am fenywod a chydraddoldeb o fewn y llywodraeth – Nicky Morgan, Amber Rudd, Justine Greening a Maria Miller.

Gwrthwynebu

Ond yn ôl Aelod Seneddol y DUP, Ian Paisley, ddylai Gogledd Iwerddon ddim cael ei “bwlio i dderbyn erthylu ar gais”.

Mae rhai, gan gynnwys Sarah Wollaston yn galw am refferendwm yng Ngogledd Iwerddon i drafod y mater. Ac fe ddywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Stella Creasy fod 140 o aelodau seneddol eisoes wedi dangos eu cefnogaeth i newid y gyfraith yng Ngogledd Iwerddon.

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Vince Cable, dylai Theresa May fanteisio ar ddiffyg gweinyddiaeth ddatganoledig yn Stormont i wthio am ddiwygio o San Steffan.

Ar hyn o bryd, all dynes ddim ond cael erthyliad yng Ngogledd Iwerddon os yw ei bywyd mewn perygl.