Mae gan Gymru le i ddiolch i Carwyn Jones am ei gyfraniad enfawr fel Prif Weinidog, yn ôl cyn-arweinydd Plaid Cymru a wasanaethodd fel dirprwy iddo mewn clymblaid rhwng 2009 a 2011.

“Roedd hi’n fraint cael cydweithio efo fo yn Llywodraeth Cymru’n Un, a dw i’n falch o’r hyn a gafodd ei gyflawni bryd hynny,” meddai Ieuan Wyn Jones.

Dywedodd fod Carwyn Jones wedi chwarae rhan gwbl allweddol mewn sicrhau pwerau deddfu i’r Cynulliad yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog.

“Mi wnaeth o fynnu cadw at amserlen y cytundeb i gynnal refferendwm ar hawliau deddfu, a hynny er gwaethaf rhai a oedd yn trio gosod rhwystrau yn ei ffordd,” meddai Ieuan Wyn Jones.

“A thrwy chwarae rhan arweiniol yn ymgyrch y refferendwm ei hun, mi wnaeth o helpu sicrhau’r fuddugoliaeth glir a gawsom.”

‘Cyfnod sylweddol’

Er ei fod yn cyfaddef bod amseriad ei gyhoeddiad ddoe yn syndod iddo, dywedodd nad yw ei benderfyniad yn gwbl annisgwyl.

“Rhaid cofio bod naw mlynedd yn gyfnod sylweddol fel Prif Weinidog, sy’n swydd â chymaint o bwysau ynghlwm â hi,” meddai.

“Mae’r ffaith iddo allu ddal ati cyhyd yn dangos y parch oedd gan bobl iddo.

“Yn sicr, o’m profiad i, roedd o’n rhywun hawdd iawn cydweithio ag o bob amser, ac o’r herwydd mae gen i barch iddo fel person yn ogystal ac fel gwleidydd.

“Mae’n gallu gadael ei swydd gan wybod ei fod wedi gwneud diwrnod da o waith dros Gymru.”