Mae’n bosib mai’r band o Gymru, y Manic Street Preachers, fydd ar frig y siartiau albwms Saesneg yng ngwledydd Prydain erbyn diwedd yr wythnos.

Nhw oedd ar y blaen erbyn chweech o’r gloch nos Lun ac, yn ôl yr Official Charts Company, mae’n edrych yn debyg mai nhw fydd y rhif un ddydd Gwener.

Yr albwm hwn, Resistance is Futile, yw’r 13eg i’r band o ardal y Coed Duon yng Ngwent ac, erbyn dechrau’r wythnos, roedd 4,000 o gopïau o flaen ycystdleuydd agosa’.

Os bydd yn parhau ar y blaen, hwn fydd yr albwm cynta’ ganddyn nhw i fod yn rhif 1 ers i This is My Truth Tell Me Yours wneud hynny yn 1998.