Mae’r cwmni lladd-dai, Dunbia, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau un o’u safleoedd yng ngorllewin Cymru – yn union fel yr oedd Golwg360 wedi rhybuddio fwy na blwyddyn yn ôl.

Fe fydd gwaith yn dod i ben ar y safle pacio yn Felin-fach yng Ngheredigion fis nesaf, ar ôl i’r cwmni fethu â chael adnewyddu eu les ar y safle yno.

Fe fydd 107 o weithwyr yn symud i safleoedd eraill, gan gynnwys Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin, ond fe fydd 34 yn gadael y cwmni.

“Rhesymau y tu hwnt i’n rheolaeth” sy’n gyfrifol am y penderfyniad, meddai’r cwmni, ond mae’n dilyn gwerthiant Dunbia i gwmni mwy Dawn Meats, sydd eisoes â chanolfan yn Cross Hands.

Ail-leoli staff

Mae’r safle ar hyn o bryd yn cyflogi 141 o staff, ac fe fydd 107 ohonyn nhw’n cael eu symud i safleoedd eraill – y rhan fwya’ i Cross Hands a rhai i Lanybydder. Fe fydd bysys rhad ac am ddim yn mynd o ardaloedd Llanbed a Llanybydder i Cross Hands.

Mae’r 34 aelod o staff sy’n weddill wedi penderfynu rhoi’r gorau i’w swyddi yn dilyn y penderfyniad hwn.

Mae cwmni Dunbia’n adnabyddus am gyflogi canran uchel o weithwyr asiantaeth o wledydd tramor yn Felin-fach ac yn eu lladd-dy yn Llanybydder.

Cross Hands

“R’yn ni’n falch bod y rhan fwyaf o’r gweithwyr yn Felin-fach wedi dewis aros gyda’r cwmni,” meddai Helen Rees, Cyfarwyddwr Dunbia HR.

“Fe fydden ni wedi hoffi cadw’r staff i gyd yn y broses, ond rydym ni’n deall nad yw’r newid yn addas ar gyfer pob aelod am resymau personol.”

“Fe fydd symud y gwaith i Cross Hands yn golygu y bydd y gwaith yn aros yng Nghymru.

“Mae gan Dunbia hanes hir a balch fel cyflogwyr pwysig yng Nghymru, ac yn gefnogwr o ffermio yng Nghymru, ac mae’n gobeithio parhau i wneud hynny.”

  • Yn ôl ym mis Mawrth 2017, pan ddaeth y newyddion cynta’ am y posibilrwydd o Dawnb Meats yn prynu Dunbia, fe ddywedodd Golwg360 mai’r pryder oedd y byddai gwaith Felin-fach yn cau.
  • Does dim disgwyl newidiadau eraill yn Llanybydder ar hyn o bryd ond mae’r cwmni’n parhau i ystyried patrwm ei safleoedd yng Nghymru ers uno Dawn Meats a Dunbia y llynedd.