Byddai’r Blaid Lafur yn gwrthod cefnogi unrhyw weithred filwrol yn Syria heb sêl bendith Rwsia, yn ôl yr arweinydd Jeremy Corbyn.

Galwodd am atal Llywodraeth Prydain rhag gweithredu heb ganiatâd y Senedd, ddiwrnod cyn y bydd y Prif Weinidog Theresa May yn egluro’i rhesymau tros gynnal cyrchoedd awyr nos Wener, a hynny ar y cyd â’r Unol Daleithiau a Ffrainc.

Wrth amddiffyn y cyrchoedd, dywedodd Ysgrifennydd Tramor Prydain, Boris Johnson mai “digon yw digon”.

Ond mae Jeremy Corbyn wedi galw am gyflwyno Deddf Pwerau Rhyfel i atal llywodraethau rhag gweithredu’n filwrol heb gefnogaeth Aelodau Seneddol yn gyntaf.

Mae Rwsia o hyd yn anwybyddu sancsiynau’r Cenhedloedd Unedig tros Syria.

Cymeradwyo

Dywedodd Jeremy Corbyn: “Alla i ddim ond cymeradwyo ymrwymiad yn Syria os yw awdurdod y Cenhedloedd Unedig y tu ôl iddo.

“Pe gallen ni gael proses yn y Cenhedloedd Unedig lle cewch chi gadoediad, lle cewch chi ddatrysiad gwleidyddol, yna mae’n bosib iawn y cewch chi sefylfa lle gellid sefydlu llu’r Cenhedloedd Unedig i orfodi’r cadoediad hwnnw.”

Ond mae Llywodraeth Prydain yn mynnu nad oes ganddyn nhw fwriad i newid y drefn bresennol.