Mae’r Blaid Lafur wedi atal un o’i chynghorwyr ar ôl i banel annibynnol ddyfarnu ei fod wedi dweud celwydd wrth roi tystiolaeth am gam-drin plant yn ei ardal.

Yn ôl yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol roedd hi’n “amhosib credu” nad oedd Richard Farnell yn gwybod am achosion cam-drin yn Rochdale pan oedd yn arweinydd ar y cyngor yno.

Wrth roi tystiolaeth, roedd wedi rhoi’r bai i gyd ar swyddogion gan eu beirniadu am beidio â rhoi gwybod iddo ef.

Gwadu

Roedd wedi gwadu gweld adroddiad gan weithiwr iechyd yn 1991 yn dweud bod dynion yn dod i ysgol o’r enw Knowl View i gam-drin bechgyn.

Fe benderfynodd yr ymchwiliad hefyd fod problemau dyfnach o ddiffyg dealltwriaeth o fewn y cyngor.

“Fe ddaethon ni i’r casgliad nad oedd neb mewn awdurdod yn ystyried bod ecsploetio rhywiol yn fater brys o ran diogelwch plant,” meddai adroddiad gan y panel ymchwilio.

“Yn hytrach, roedd bechgyn mor ifanc ag 11 oed yn cael eu gweld yn awduron eu cam-drin eu hunain, nid yn ddioddefwyr.”

  • Roedd yr ymchwiliad hefyd yn feirniadol o fethiant yr awdurdodau yn Rochdale i erlyn cyn-AS yr ardal, Cyril Smith, er bod tystiolaeth gry’ yn awgrymu ei fod yn cam-drin bechgyn.