Mae adroddiadau bod y seiclwr 23 oed o Wlad Belg, Michael Goolaerts mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Ffrainc.

Y gred yw ei fod e wedi cael trawiad ar y galon ar ymyl y ffordd wrth gystadlu yn y ras 257km rhwng Paris a Roubaix – ras sy’n cael ei galw’n ‘Uffern y Gogledd’.

Cafodd e driniaeth ar ymyl y ffordd cyn cael ei drosglwyddo i’r ysbyty yn Lille.

Ar wefan gymdeithasol Twitter, dywedodd ei dîm nad oes rhagor o wybodaeth am ei gyflwr ar hyn o bryd, gan ofyn i bobol “beidio â dyfalu”.

Cafodd y ras ei hennill gan bencampwr y byd, Peter Sagan. Doedd e erioed wedi gorffen yn y pump uchaf o’r blaen.

Y Cymry

Daeth ras Geraint Thomas i ben yn y cymal cyntaf wrth iddo orfod gadael y ras ar ôl i nifer o feicwyr daro yn erbyn ei gilydd mewn peloton.

Doedd y Cymro arall yn y ras, Luke Rowe ddim ychwaith wedi gorffen y ras wrth geisio cadw i fyny gyda’r prif griw oedd yn cwrso tua’r blaen.