Mae Heddlu’r De yn rhybuddio pobol i fod yn “ofalus” wrth wneud sylwadau ar wefannau cymdeithasol am lofruddiaeth dyn 67 oed o Abertawe.

Mae’r ymchwiliad i lofruddiaeth John ‘Jack’ Williams o ardal Pentrechwyth y ddinas yn parhau, a does neb wedi ei arestio hyd yn hyn. Cafwyd hyd iddo’n farw yn ei gartref ddydd Sadwrn.

Mae’r heddlu’n gwadu’r adroddiadau ar wefannau cymdeithasol fod unigolion wedi’u harestio mewn perthynas â’r digwyddiad.

Mae ambell neges ar Facebook a Twitter yn awgrymu bod ergydion dryll i’w clywed yn y ddinas neithiwr, a bod dyn â chyllell ar ffo yn yr ardal. Ond mae’r heddlu’n gwadu hynny, gan ddweud y bydden nhw’n “ymwybodol” o’r fath ddigwyddiad pe bai’n wir.

Datganiad

“Rydym yn ymwybodol o negeseuon ar wefannau cymdeithasol yn awgrymu bod pobol wedi cael eu harestio,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

“Gallwn gadarnhau na chafodd unrhyw un ei arestio hyd yn hyn, a dyna pam rwy’n adnewyddu’r apêl – ac mae’r ymchwiliad yn sicr yn parhau.

“Mae ein swyddogion ymroddedig yn parhau i gynnal ymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth Mr Williams ac rydym yn galw am gymorth a chefnogaeth y gymuned leol.

“Mae’n hanfodol fod unrhyw un â gwybodaeth – waeth mor fach ydyw – yn cysylltu â’r heddlu.”

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Heol Pentrechwyth rhwng 11.30yb a 12.30yp nos Iau (Mawrth 29).