Mae pump o blismyn yn Feneswela wedi’u harestio ar amheuaeth o achosi marwolaethau 68 o bobol yn dilyn tân mawr yn y ddalfa.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd, ond ymhlith y rhai sydd wedi’u harestio mae is-gyfarwyddwr yr orsaf, Jose Luiz Rodriguez.

Mae’r ddalfa’n dal hyd at 200 o bobol.

Mae teuluoedd y rhai fu farw ac ymgyrchwyr wedi bod yn pwyso ar y llywodraeth i gyhoeddi beth yn union ddigwyddodd cyn y tân fore Mercher.

Yn ôl adroddiadau, roedd nifer o garcharorion wedi ffonio’u teuluoedd yn dweud bod plismyn wedi bod yn gollwng tanwydd ar lawr y ddalfa cyn y tân.

Ond yn ôl adroddiadau eraill, y carcharorion oedd yn gyfrifol, a hynny’n rhan o ymgais i ffoi.

Mae’r digwyddiad hwn ymhlith y rhai mwyaf difrifol yn hanes y wlad, ac mae wedi codi cwestiynau am amodau byw yn y carchardai a dalfeydd.