Mae’r golygfeydd ym Metws-y-coed heddiw wedi cael eu disgrifio fel “hud a lledrith y gaeaf”.

Roedd rhybudd i yrwyr yn yr ardal y bore yma na ddylen nhw deithio oni bai bod rhaid.

Wrth ddisgrifio’r golygfeydd fel “hud a lledrith y gaeaf”, fe ddywedodd Mark Edwards, perchennog busnes gwely a brecwast Bryn Bella wrth golwg360 ei fod e allan yn clirio’r eira’n gynnar y bore yma.

Roedd hynny, meddai, yn golygu na chafodd yr un o’u gwesteion drafferthion mawr heddiw.

“Fe dreuliais i ddwy awr a hanner yn clirio’r eira oddi ar ein llwybr hyd at yr A470 cyn brecwast fel eu bod nhw’n gallu mynd allan.

“Mae’r prif ffyrdd yn glir ac maen nhw wedi mynd allan i fwynhau rhyfeddodau Eryri yn yr eira.”