Mae Adam Price yn dweud y bydd yn parhau i ymddangos ar sianel Russia Today – er gwaetha’r ffaith fod y berthynas rhwng gwledydd Prydain a Vladimir Putin wedi torri i lawr – a hynny er mwyn “hyrwyddo ei achos”.

Ac fe fydd yr Aelod Cynulliad tros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn dal i wneud hynny “cyhyd â bod y sianel yn parhau i ddal trwydded”, meddai wrth golwg360.

“Yn fy marn i, tra bod ganddyn nhw drwydded fel darlledydd, yna fy nyletswydd i fel gwleidydd etholedig ydy cyflwyno fy achos mewn unrhyw fforwm sy’n gyfreithlon dan y rheolau,” meddai Adam Price.

“Bach iawn o allbynnau ar y cyfryngau dw i’n teimlo’n hollol gyfforddus â nhw os ydw i’n rhoi barn bersonol ond os [nad ydych chi’n cymryd rhan] rydych chi’n tynnu eich hun o’r fforwm cyhoeddus a dydy hynny ddim yn cyflawni dim.

“Dyna yw fy marn i.”

Mae Adam Price wedi ymddangos ar y sianel o dro i dro, ond yn wahanol i rai gwleidyddion, dyw e erioed wedi derbyn tâl am wneud.