Mae cestyll Caernarfon, Caerffili a Chydweli ymhlith y safleoedd hanesyddol fydd yn agor eu drysau i ymwelwyr am ddim ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Ar Fawrth 1, bydd modd ymweld â sawl un o’r 127 safle dan reolaeth Cadw – gwasanaeth cadwraeth Llywodraeth Cymru – yn rhad ac am ddim.

Yn ôl y Gweinidog Twristiaeth a Diwylliant, Dafydd Elis-Thomas, mae’r cynllun yn gyfle i “ddiolch” ymwelwyr ac i roi “cipolwg” i eraill o’r hyn sydd gan Cadw i’w gynnig.

“Safon fyd-eang”

“Rydym mor lwcus yng Nghymru i allu cynnig lleoliadau gwirioneddol unigryw, o safon fyd-eang,” meddai Dafydd Elis-Thomas.

“Ac rwy’n falch o weld rhaglenni a mentrau newydd yn cael eu cyflwyno i ategu hyn, gan annog hyd yn oed mwy o bobl i fwynhau, deall a dysgu am hanes Cymru.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cynllun fydd yn galluogi ymweliadau di-dâl i ddisgyblion ac athrawon, teuluoedd sy’n gofalu am blant pobol eraill a sefydliadau cymorth.