Mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno canllawiau newydd i aelodau’r Cabinet ar ddefnyddio e-byst personol wrth drafod busnes swyddogol.
Mewn llythyr at arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fe gyfaddefodd y Prif Weinidog ei fod weithiau yn defnyddio ei e-bost personol yn ei waith.
Yn ôl Carwyn Jones, mae e’ wastad yn defnyddio un o ddyfeisiau Llywodraeth Cymru wrth anfon e-byst, sy’n cael eu diogelu gan “lefelau priodol o feddalwedd diogelwch”.
Dywed hefyd nad yw’r mwyafrif o’r Cabinet yn defnyddio cyfeiriadau e-bost personol ond bod dau aelod yn gwneud hynny “yn achlysurol”.
Tystiolaeth i ymchwiliadau Carl Sargeant?
Ond mae’r Ceidwadwyr yn dweud gallai fod tystiolaeth ar yr e-byst hynny sy’n berthnasol i’r ymchwiliadau ar y gweill ynghylch marwolaeth Carl Sargeant.
Yn ei lythyr, mae Carwyn Jones yn dweud y bydd pob “deunydd perthnasol” yn cael ei roi i’r ymchwiliadau gwahanol.
Mi wnaeth hefyd gadarnhau ei fod wedi gofyn am ganllawiau clir i’r Cabinet a Gweinidogion y Llywodraeth ar gyfathrebu dros e-bost, a hynny i ddigwydd cyn gynted â phosib.
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bydd y Llywodraeth yn ystyried cyhoeddi e-byst y llywodraeth ar ei gyfrif personol, yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Galw am gyhoeddi manylion yr e-byst
“Mae’r Prif Weinidog wedi cael ei ddal,” meddai Andrew RT Davies, “ac mae’r ffaith ei fod yn cyfaddef nad yw defnyddio cyfeiriadau e-byst personol ddim yn arfer gan ei gyd-weithwyr, yn dangos bod un rheol iddo fe a rheol arall i bobol eraill o fewn Llywodraeth Cymru.
“O ystyried yr ymchwiliadau sydd wedi dod i ben a’r rhai sydd ar y gweill, rydym yn galw ar Carwyn Jones eto i gyhoeddi holl ohebiaeth y llywodraeth sydd wedi’i hanfon a’i derbyn ar ei gyfeiriad e-bost personol.
“Mae enw da Llywodraeth Cymru yn y fantol a bydd [gwneud] dim byd arall yn ddigonol.”
Mewn ateb i gwestiwn arall gan Andrew RT Davies, datgelodd y Prif Weinidog yr wythnos hon nad oedd yn berchen ar ffôn symudol personol.