Mae un o wirfoddolwyr siop Oxfam Porthmadog wedi amddiffyn yr elusen yn sgil honiadau bod rhai o’i gweithwyr wedi ymweld â phuteiniaid wrth weithio yn Haiti yn 2011.

“Mae yna afalau drwg ym mhob basged, dyna un ffordd o esbonio’r sefyllfa,” meddai’r gwirfoddolwr sydd am aros yn ddienw, wrth golwg360.

“Mae hynna’n drueni, gan fod y rhan fwyaf o bobol, a’n bendant pawb dw i’n nabod fan hyn, yn onest ac ymroddedig. Y broblem yw, jest fel afal drwg mewn bocs, mae’n llygru’r cyfan.

“Dw i’n gobeithio y bydd pobol yn sylweddoli bod y mwyafrif helaeth o bobol sy’n gweithio i Oxfam, boed nhw’n wirfoddolwyr neu staff, yn onest a’n ymroddedig.”

Busnes

Mae’r gwirfoddolwyr yn dweud bod Oxfam wedi hysbysu’r siop am eu safbwynt, a bod hi’n “anodd dweud” os ydy’r helynt wedi cael effaith ar fusnes.

Mae ambell siop Oxfam yng Nghymru wedi dweud wrth golwg360 eu bod wedi derbyn cyfarwyddyd i beidio â siarad â’r wasg.

Yr helynt hyd yn hyn

  • Mae Dirprwy Prif Weithredwr yr elusen, Penny Lawrence, wedi ymddiswyddo.
  • Mae’r Comisiwn Elusennau wedi dechrau ymchwiliad i waith yr elusen.
  • Mae un o lysgenhadon Oxfam, yr actores Minnie Driver, wedi rhoi’r gorau iddi.