Mae cyn-bennaeth y BBC ym Mangor wedi cael ei phenodi’n Gadeirydd newydd Cyngor Prifysgol Bangor.

Marian Wyn Jones yw’r ferch gyntaf i gadeirio’r Cyngor ers sefydlu’r brifysgol yn 1884, ac mae’n olynu Dafydd Elis-Thomas a roddodd y gorau i’r swydd y llynedd.

Yn ogystal â bod yn aelod o’r Cyngor, mae’r newyddiadurwraig adnabyddus wedi gwasanaethu fel cyfarwyddwr an-weithredol amryw o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Celfyddydau Cymru, lle mae’r Is-gadeirydd.

“Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael fy mhenodi yn gadeirydd y Cyngor. Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad balch o ragoriaeth mewn addysgu, ymchwil a phrofiad myfyrwyr,” meddai Marian Wyn Jones. “Mae’r brifysgol hefyd yn chwarae rhan allweddol ym mywyd dinesig a diwylliannol Cymru. Dwi’n edrych ymlaen at gael defnyddio fy mhrofiad wrth arwain y brifysgol ac wrth adeiladu ar y seiliau cadarn hyn.”

‘Dealltwriaeth gref’

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes:  “Mae Marian yn deall yr amgylchedd y mae’r brifysgol yn gweithio o’i fewn, ac mae ganddi ddealltwriaeth gref o’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig.

“Mae ganddi ffordd fodern o ymdrin â llywodraethu a chefnogaeth frwd i lais y myfyrwyr, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae hynny’n golygu ei bod yn hynod addas i fod yn gadeirydd.”

Am y tro cyntaf erioed, cafodd y swydd ei hysbysebu yn genedlaethol, a chafodd yr ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rhestr fer eu cyfweld gan y panel penodi, a oedd yn cynnwys aelodau a’r cyngor a chynrychiolydd ar ran y myfyrwyr.