Mae dyn 40 oed o Fanceinion wedi’i garcharu am 20 mis am ei ran mewn twyll yn ymwneud â thocynnau ar gyfer ffeinal pêl-droed Cynghrair y Pencampwyr yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd y tymor diwethaf.

Roedd wedi ddwyn tocynnau i seddi ac ardaloedd lletygarwch ar gyfer y gêm fawr rhwng Real Madrid a Juventus – un o’r digwyddiadau chwaraeon mwya’ erioed yng Nghymru.

Mae lle i gredu bod pobol eraill yn rhan o’i dwyll hefyd, ond dydy’r heddlu ddim wedi dod o hyd iddyn nhw hyd yn hyn.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron heddiw ar ôl pledio’n euog i ddau gyhuddiad o dwyll drwy ddweud anwiredd.

Y cefndir

Roedd Lewis Hudson wedi twyllo gweithwyr gwestai i roi tocynnau iddo, gan esgus ei fod yn rhywun arall a’r ffaith ei fod wedi defnyddio enwau cywir yn awgrymu bod ganddo wybodaeth fewnol.

Cafwyd hyd iddo ar ôl iddo gael ei adnabod ar luniau camerâu cylch-cyfyng yn dilyn apêl. Cafodd ei arestio ddeufis yn ddiweddarach wrth geisio gwerthu tocynnau ar gyfer trac rasio ceir Silverstone.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu ei fod e wedi cyflawni twyll “ar raddfa fawr” ac roeded ganddo record hir o droseddu.

Yn sgil yr achos, mae’r heddlu’n rhybuddio y dylai pobol feddwl ddwywaith cyn prynu tocynnau o lefydd nad ydyn  nhw’n rhai dibynadwy a chydnabyddedig.