Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi dweud nad oes gan Dafydd Elis-Thomas “owns o barch” tuag at ei etholwyr.

Yn ôl Liz Savile-Roberts, dylai’r Aelod Cynulliad Annibynnol fod wedi galw am isetholiad ar ôl iddo adael Plaid Cymru’r llynedd, a hynny o ran parch tuag at bobol yr ardal.

Roedd y ddau yn eistedd ar banel y rhaglen Pawb a’i Farn ym Mhenrhyndeudraeth neithiwr, a’r Aelod Seneddol lleol yn mynegi barn groch am gyn-Lywydd Plaid Cymru.

“Os ga i siarad yn blaen,” meddai Liz Saville-Roberts, “petai gan Dafydd Elis-Thomas owns o barch tuag at ei etholwyr a thuag at y bobol sydd wedi’i gefnogi fo ers degawdau, mi fydda’ fo wedi sefyll i lawr… [a] sbarduno isetholiad.”

Ymateb Dafydd Êl

Wrth ymateb, dywedodd Dafydd Elis-Thomas i ddechrau na fyddai’n gwneud sylw am nad oedd yn cytuno gyda’r ffordd roedd y cwestiwn yn cael ei drafod.

Ond mynnodd hefyd nad oedd wedi “newid ei gôt” a’i fod yn parhau i fod yn “genedlaetholwr diwylliedig”.

“Dw i ddim am wneud unrhyw sylw ar y cwestiwn yma oherwydd dw i ddim yn meddwl bod o’n gwestiwn i’w drafod yn y ffordd mae o wedi cael ei drafod heno yma,” meddai Dafydd Elis-Thomas, sydd bellach yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru.

“Dydw i ddim wedi newid fy nghôt, rydw i’n parhau yn genedlaetholwr diwylliedig. Y ddadl oedd gen i oedd gydag arweinyddiaeth a strategaeth grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, yn gwrthod cydweithio i greu llywodraeth ddiogel ar gyfer Cymru…

“Dw i ddim wedi chwalu dim byd, mae pob peth addewais i i etholwyr Dwyfor Meirionnydd yn cael ei weithredu.

“Dw i wedi cael y fraint ers mis Tachwedd i fod yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru, dyma’r fraint fwyaf dw i wedi cael yn fy mywyd.

“Bydda’ i’n parhau i gynrychioli’r etholaeth yma hyd nes bydd fy iechyd yn caniatáu, diolch yn fawr i chi.”